Athrawon

Adnodd a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yw’r gyfres Ymchwil Ysbrydol Randalph a’i Chwiliad am Ystyr, adnodd sy’n cefnogi Addysg Grefyddol ar gyfer dysgwyr 8 i 11 oed yn y Cwricwlwm i Gymru 2022.

Nod y dull pedagogaidd a amlygir yn y gyfres hon yw ysbrydoli athrawon i fod yn greadigol ac yn hyderus wrth ddatblygu Addysg Grefyddol ystyrlon a heriol yng nghwricwlwm yr ysgol. Wedi’i llunio ar gyfer y cyd-destun dysgu newydd yng Nghymru (lle mae athrawon ac ysgolion yn cael mwy o ymreolaeth wrth drefnu’r cwricwlwm a dewis cynnwys) mae dull agored, seiliedig ar ymholiad, y gyfres Ymchwil Ysbrydol Randalph a’i Chwiliad am Ystyr yn ei gwneud yn berthnasol i Addysg Grefyddol ledled ysgolion yng Nghymru, yn ogystal â Lloegr a thu hwnt.

Mae Canolfan y Santes Fair, Cymru, yn cymryd rhan weithredol mewn ymchwil academaidd yn ymwneud â phobl ifanc, crefydd ac addysg, ac mae’r arbenigedd hwn yn llywio ymarfer yn ein holl brosiectau datblygu cwricwlwm, gan gynnwys y gyfres Ymchwil Ysbrydol Randalph a’i Chwiliad am Ystyr.

Canllaw i Athrawon

Mae Canllaw i Athrawon yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i Addysg Grefyddol
  • Addysg Grefyddol yn y Dyniaethau
  • Cysyniadau ac Addysg Grefyddol
  • Iaith Addysg Grefyddol
  • Cyflwyniad i Randalph Ddoeth
  • Cyflwyniad i’r adnoddau llyfrau stori
  • Cysylltau defyddiol i themau y llyfr stori

Noder: Mae Canllaw i Athrawon wedi ei ysgrifennu cyn cyhoeddi canllawiau statudol Llywodraeth Cymru ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau ym mis Ionawr 2020 a chyn i ganllaw Llywodraeth Cymru ar Addysg Grefyddol gael ei gyhoeddi. Bydd Canllaw i Athrawon yn cael ei ddiweddaru cyn gynted ag y bydd y ‘Fframwaith ar gyfer Addysg Grefyddol’ ar gael.

%d bloggers like this: